Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol/ Gweithiwt Cymdeithasol Profiadol - Tîm Anabledd Pob Oedran

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 03/03/2024
Dyddiad Postio: 19/02/2024
Cyfeirnod: 07694

Disgrifiad

Tîm Anabledd Pob Oedran – Gweithiwyr Cymdeithasol Cofrestredig

Swyddi Parhaol – 37 a 30 awr yr wythnos ar gael

Ystyrir trefniadau gweithio rhan-amser a rhannu swydd i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Cyflog G09 £35,745 – £38,223 x 2

Cyflog G10 £39,186 – £42,403 x 2

(yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)

Mae gan y Tîm Anabledd Pob Oedran gyfle cyffrous i weithwyr cymdeithasol ymuno â thîm arloesol a blaengar.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at ddull aml-asiantaeth y tîm, gan ddarparu gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles di-dor ar gyfer pobl anabl o bob oed a'u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), Deddf Plant 1989 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframweithiau deddfwriaethol i sicrhau bod y tîm yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar bob cam o’u bywydau.

Byddwch yn gweithio gydag unigolion er mwyn eu galluogi i ganfod eu canlyniadau personol eu hunain.  Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn a'i rwydweithiau cefnogi, gan gynnwys teuluoedd, i hyrwyddo annibyniaeth, sicrhau bod gan yr unigolyn lais cryfach wrth wneud penderfyniadau a mwy o reolaeth yn eu bywydau.  

Hoffai’r tîm atynnu Gweithwyr Cymdeithasol llawn cymhelliant gydag unrhyw lefel o brofiad i gynnal llwythi achosion yn bennaf ar gyfer oedolion.  I fod yr unigolyn cywir ar gyfer y swydd hon, bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad o weithio mewn tîm, profiad o weithio gydag oedolion diamddiffyn a'r gallu i ymateb yn briodol i anghenion pobl gydag anabledd â diagnosis wrth gadw at ganllawiau, polisïau a safonau statudol. Mae’r Tîm Anableddau Pob Oed yn darparu cyfle i weithio mewn maes o arbenigedd penodol gyda’r posibilrwydd o ddatblygu sgiliau a phrofiad ymhellach i weithio ar draws holl agweddau’r tîm, gan gynnwys plant os y dymunwch wneud hynny.

Yn gyfnewid rydym ni’n cynnig:

             Goruchwyliaeth a chefnogaeth rheoli gadarn

             Cefnogaeth wych i gydweithwyr a morâl tîm cadarnhaol, gan gynnwys cefnogaeth mentor i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.

             Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus

             Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio’n hyblyg a rhannu swydd

             Llwyth achos y gellir ymdopi â fo.

I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Carys West, Rheolwr Tîm, ar 01978 298551 neu anfonwch e-bost at carys.west@wrexham.gov.uk

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: carys West
Ffôn: 01978 298511
Cyfeiriad e-bost: carys.west@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr