Gyrrwr Fan Cyflenwi Rhyddhad
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | |
Categori: | Economi a Cynllunio |
Dyddiad Cau: | 07/04/2024 |
Dyddiad Postio: | 22/03/2024 |
Cyfeirnod: | 08144 |
Disgrifiad
GWASANAETH LLYFRGELL A GWYBODAETH
GYRRWR FAN DDOSBARTHU WRTH GEFN
Grade 03 £11.49 Yr Awr
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd fel Gyrrwr Fan Ddosbarthu
Achlysurol i Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam.
Bydd oriau gwaith yn cael eu cynnig ar sail "yn ôl y
galw” ar gyfer gwyliau blynyddol a salwch staff.
Prif ddyletswyddau’r swydd hon yw darparu gwasanaeth
dosbarthu a chasglu dibynadwy i lyfrgelloedd o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
ac i awdurdodau eraill Gogledd Cymru o dro i dro. Mae profiad o yrru cerbydau mawr a chodi a
symud llwythau trymion yn gorfforol yn hanfodol.
I gael trafodaeth anffurfiol neu i gael rhagor o wybodaeth,
cysylltwch â Debbie Williams, Swyddog y Gwasanaeth Llyfrgell ar 01978 2920904.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog
ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn
Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu
trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Debbie williams |
Ffôn: | 01978 292090 |
Cyfeiriad e-bost: | debbie.williams@wrexham.gov.uk |