Peiriannydd (Rheoli Datblygu) - Mewnol yn Unig
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Parhaol |
Categori: | Amgylchedd a Thechnegol |
Dyddiad Cau: | 28/04/2024 |
Dyddiad Postio: | 19/04/2024 |
Cyfeirnod: | 08180 |
Disgrifiad
G09 £35,745 - £38,223 pro rata
(yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad perthnasol)
Llawn Amser, 20 awr yr wythnos
Parhaol
Mewnol yn Unig
Rydym yn dymuno penodi ymgeisydd profiadol a chymwys i weithio yn y tîm Contractau a Pheirianneg.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad ym mhob agwedd o brotocolau rheoli datblygu priffyrdd, gwybodaeth a phrofiad am ddarparu gwerthusiadau technegol ac adroddiadau ar geisiadau cynllunio sy’n ymwneud â phriffyrdd cyhoeddus. Yn ychwanegol, mae’n hanfodol fod gennych sgiliau cyflwyno da gyda'r hyder i gynrychioli’r adran mewn pwyllgorau, ymchwiliadau cynllunio cyhoeddus a gwrandawiadau llys.
Bydd deiliad y swydd yn gyfarwydd â safonau dylunio priffyrdd, manylion technegol a deddfwriaeth priffyrdd sy’n ymwneud â gwaith strydoedd preifat a bydd ganddynt y gallu i ddehongli ac arwain ar addasrwydd ceisiadau cynllunio ar y cyd ag aelodau’r tîm a chydweithwyr o adrannau eraill.
Mae’r hyblygrwydd i fynychu cyfarfodydd yn rheolaidd y tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn cynrychioli’r adran yn hanfodol.
Mae cymhwyster ym maes Peirianneg Sifil hyd at safon gradd neu gyfwerth yn hanfodol, yn ogystal â’r gallu i ddangos sgiliau cyfathrebu ardderchog. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu trefnu ac ysgogi tîm o gydweithwyr er mwyn gosod a chyrraedd dyddiadau cau a datblygu a chynnal arferion gwaith sydd yn cydymffurfio â phrotocolau sefydledig a swyddogaethau statudol a rheoleiddio yr adran.
I drafod y swydd yn anffurfiol, cysylltwch â Kevin Edwards ar 01978 729732
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Kevin Edwards |
Ffôn: | 01978 729732 |
Cyfeiriad e-bost: | kevin.edwards@wrexham.gov.uk |