Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Athrawes

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag:
Categori: Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras
Dyddiad Cau: 16/06/2023
Dyddiad Postio: 01/06/2023
Cyfeirnod: 07600

Disgrifiad

Pedair swydd wag ar gyfer Athro Dosbarth

1.    Llawn Amser, Cyfnod Allweddol 2             - Contract Cyfnod Mamolaeth Dros Dro– Cychwyn ym mis Medi

2.    Llawn Amser, Cyfnod Allweddol 2             – Contract Cyfnod Mamolaeth Dros Dro– cychwyn ym mis Hydref (o gwmpas hanner tymor)

3.    Llawn Amser, y Cyfnod Sylfaen   – Contract Cyfnod Mamolaeth Dros Dro – cychwyn ym mis Hydref (o gwmpas hanner tymor)

4.   Rhan Amser, y Cyfnod Sylfaen    – 0.4 Dydd Iau a Dydd Gwener – Contract 12 mis Dros Dro – Cychwyn ym mis Medi

 

Ffôn: 01978 346890            e-bost: mailbox@borraspark-pri.wrexham.sch.uk

Mae llywodraethwyr yr ysgol fawr, prif ffrwd hon, a adeiladwyd yn ddiweddar yn dymuno penodi pedwar athro brwdfrydig, sydd wedi cymhwyso’n llawn, i gynllunio a darparu profiadau dysgu ac addysgu o safon i ddosbarthiadau o blant mewn sawl maes o fewn yr ysgol. Os yn addas, bydd croeso i ymgeiswyr wneud cais am unrhyw un o’r pedair swydd wag, gan nodi’n glir ar eu cais am swydd.  Nid oes angen cwblhau ffurflen ar wahân ar gyfer pob swydd wag.

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad â’r ysgol, cysylltwch â Swyddfa’r Ysgol ar 01978 346890.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 16 Mehefin 2023 am 12:00pm

Arsylwadau addysgu ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer: 19 i 23 Mehefin 2023

Cynhelir cyfweliadau: Dydd Llun 26 Mehefin

Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi Ffurflen Gais Cyngor Sir Wrecsam, ac mae’n rhaid cynnwys llythyr ategol yn amlinellu eu haddasrwydd ar gyfer y swydd hon.  Ni ddylai llythyrau ategol fod yn fwy na 3 ochr A4, maint ffont 12, a dylent gyfeirio’n benodol at y Manylion am yr Unigolyn.  Nodwch yn glir ar y ffurflen gais pa swyddi rydych yn gwneud cais amdanynt.

 

Ffurflenni cais i’w dychwelyd yn y post, â llaw, neu dros e-bost.

 

Mr Rob Nicholson

Pennaeth

Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras

Ffordd Parc Borras

Wrecsam

LL12 7TH              mailbox@borraspark-pri.wrexham.sch.uk                                                            

 

Ymweliadau ag Ysgol Gynradd Parc Borras

Rydym yn annog pob darpar ymgeisydd i ymweld (neu gysylltu o leiaf) â’r ysgol cyn gwneud cais, felly rydym wedi gwneud y dyddiau a’r amseroedd canlynol ar gael ar gyfer ymweliad â’r safle.  Cysylltwch â’r brif swyddfa i drefnu sesiwn, neu i drafod y swydd yn fanylach:

 

Dydd Iau Mehefin 8fed                  Amser: a) 1:30pm neu b) 3:30pm

 Sylwer, er yr hoffem gydnabod pob cais unigol, nid yw’n ymarferol i ni wneud hynny.   Felly, ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig y cysylltir â hwy.  Os na fyddwch yn clywed gennym erbyn 4:00pm ddydd Llun 19 Mai, yna ni fyddwch wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn a dymunwn bob llwyddiant i chi gydag unrhyw geisiadau yn y dyfodol.

 

Dolen i dudalen swyddi gwag Cyngor Wrecsam:

https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/pages/vacancy.jsf?latest=01006277

 

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Rob Nicholson
Ffôn: 01978 346890
Cyfeiriad e-bost: mailbox@borraspark-pri.wrexham.sch.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr